13.11.2017

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Annwyl Gyfaill

 

Roeddem am roi gwybod ichi am gyhoeddiad arwyddocaol sy’n cael ei wneud heddiw gennym ni a'r BBC. 

 

Mae’r ddau sefydliad wedi cwblhau trafodaethau a llofnodi Cytundeb Partneriaeth sy’n gosod allan elfennau creiddiol y berthynas rhyngddynt. Hyd y Cytundeb yw 10 mlynedd, sef cyfnod Siarter Brenhinol y BBC.

 

Mae’r Cytundeb yn ymwneud â:

 

·         ariannu S4C o’r ffi drwydded;

·         y deg awr o raglenni yr wythnos a ddarperir i S4C gan BBC Cymru Wales;

·         darpariaeth rhaglenni S4C ar y BBC iPlayer.

·         y gwasanaethau technegol y bydd y BBC yn eu darparu i S4C yn Sgwâr Canolog, Caerdydd;

 

Mae’r Cytundeb yn disodli’r Cytundeb Gweithredu blaenorol (2013-2017) rhwng S4C ac Ymddiriedolaeth y BBC ac yn nodi sut bydd S4C yn rhoi cyfrif i’r BBC am yr arian y mae’n ei dderbyn o’r ffi drwydded. Bydd modd adolygu’r arian y mae S4C yn ei dderbyn o’r ffi drwydded yng nghyd-destun yr adolygiad cyffredinol o’r ffi drwydded a fydd yn digwydd yn 2021/22.

 

Mae’r Cytundeb hefyd yn cadarnhau y bydd gwariant y BBC ar y deg awr o gynnwys a ddarperir i S4C bob wythnos yn parhau ar y lefel bresennol hyd at 2022 ac yn cadarnhau y bydd BBC iPlayer yn parhau i gario rhaglenni S4C tan 2028. 

 

Rydym hefyd yn cyhoeddi bod Cytundeb Gwasanaethau Technegol (TSA) wedi ei lofnodi am y gwasanaethau technegol fydd yn cael eu darparu gan y BBC i S4C yng Nghaerdydd o 2019 ymlaen - pen llanw i’r cytundeb mewn egwyddor a wnaethpwyd yn 2015 wrth inni ar yr un pryd benderfynu adleoli pencadlys S4C i Gaerfyrddin. 

 

Mae’r Cytundeb yn cadarnhau annibyniaeth weithredol a golygyddol S4C, gan gadarnhau na fydd cynrychiolydd y BBC yn eistedd ar Fwrdd S4C. Bydd y Bwrdd Partneriaeth ar y cyd rhwng swyddogion BBC Cymru a swyddogion S4C yn parhau, gan ganolbwyntio ar ddod o hyd i gyfleoedd ar gyfer cydweithio â rhannu arbenigedd.

 

Mae hwn yn gytundeb rhwng Awdurdod S4C a Bwrdd unedig y BBC ac yn cyfeirio’n benodol at yr ymrwymiad a wneir gan y BBC, fel rhan o’i Siarter newydd, i weithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau eraill.  Mae’n disgrifio trefniadau ffurfiol a rheolaidd i ganiatáu i’r ddau gorff graffu ar sut y mae’r bartneriaeth yn gweithio. 

 

Credwn fod hwn yn gyhoeddiad o bwys sy’n gam pwysig arall yn y gwaith o osod sylfeini cadarn ar gyfer y gwasanaeth y bydd S4C yn ei ddarparu yn y blynyddoedd sy’n dod.

 

Fel un o’n rhanddeiliaid/partneriaid, roeddem am roi gwybod ichi heddiw.  Os oes angen rhagor o fanylion arnoch am y cyhoeddiad neu’r cytundeb hwn, cysylltwch â catrin.hughes.roberts@s4c.cymru yn y lle cyntaf.

 

Yn gywir iawn

 

                                                

 

Huw Jones                                                               Owen Evans

Cadeirydd                                                                             Prif Weithredwr